Home > Newyddion > Nia yn Cefnogi Gwrthdystiad yr Heddlu

Nia yn cwrdd ag aelodau Ffederasiwn yr Heddlu ar eu gwrthdystiad

Ym Mis Mai cwrddodd Nia Griffith AS â swyddogion Heddlu Dyfed Powys a gwrthdeithiodd trwy ganol Llundain ynghyd â thua 35,000 o swyddogion eraill yr Heddlu.  Eu pwrpas oedd anfon neges glir at Lywodraeth Glymblaid  y Torïaid a’r  Democratiaid Rhyddfrydol yn datgan mai gwarthus oedd y toriadau 20% yng nghyllid yr Heddlu ac yn peryglu diogelwch y cyhoedd.  Yn ddiweddarach, cwrddodd Nia â Chadeirydd ac Ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Dyfed Powys, Phil Addicott a Paul Herdman, am drafodaeth amgenach yngl?n ag arwyddocâd y toriadau a’r pryder am ddyfodol yr Heddlu yn leol.
Dywedodd Nia, “Mae penderfyniad y Llywodraeth i dorri  20% o gyllid yr Heddlu yn gam rhy bell a rhy gyflym, gan olygu diflaniad 16,000 o swyddogion ar hyd ac ar led y wlad. Yn barod, ers yr etholiad mae dros 5,000 wedi mynd o unedau brys 999, Timau Plismona yn y Gymdogaeth ac unedau traffig. Yn groes i honiad  y Prif Weinidog bod y rheng flaen yn cael ei diogelu, ’rydym eisoes wedi colli miloedd o’r heddweision  hynny sy’n ymateb yn gyflymaf i alwadau’r cyhoedd am gymorth.
“Pleidleisiodd Llafur yn erbyn y toriadau 20% a thrwy’r amser ’rydym wedi ymgyrchu am i’r Llywodraeth newid ei chynllun. Wrth gwrs mae’n rhaid i’r Heddlu gymryd ei ran o’r mesurau effeithiolrwydd. Ers amser, ’rydym  wedi dweud ein bod yn credu bod yr Heddlu’n gallu cynnal toriad o thua 12% yn ei gyllid cyn diwedd y Senedd gan ddal gyda’r un nifer o heddweision a gyda’r un ansawdd o wasanaeth.  Sail hwnnw yw dadsoddiad annibynol gan yr HMIC, y gwaith a wneid gan Lafur cyn yr etholiad a’r tystiolaeth ers hynny; mae hwn wedi ennill cefnogaeth sawl swyddog yr Heddlu yn ogystal ag arbenigwyr. Ond yn lle torri 12%, mae’r Llywodraeth yn torri 20% gyda’r toriadau llymach yn ystod y ddwy flynedd gyntaf – a dyna pam ’rydym  yn colli cymaint o heddweision gwerthfawr. Mae hwn yn warth ac heb os nac onibai  nid yw’n unol â dymuniad y cyhoedd.”