Wrth siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y diwrnod o wybodaeth gyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Selwyn Samuel, gofynnodd Nia i gyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Hywel Dda a’r Rheolwr Cynllunio am y gor-ddefnydd o adnoddau’r ambwlans ac am wella’r proses o ddenu staff.
Dywedodd Nia, “’Rydych wedi dweud mai nid arian ond yn hytrach anhawster denu staff â chymwysterau priodol sy’n achosi canoli gwasanaethau. Beth am ddatblygu cysylltiadau agosach â’r Ysgol Feddygaeth newydd yn Abertawe, a cheisio o ddifrif cynnig i ddoctoriaid pecynnau atyniadol er mwyn eu hybu i ddod yma?
“A pha gyfrifiad a wnaed am y costau ychwanegol o brynu a rhedeg mwy o ambwlansys er mwyn cludo cleifion i Langwili neu Withybush os nad yw’r gwasanaethau ar gael bellach yn Ysbyty y Tywysog Philip? Yn lle hynny, beth am ddefnyddio’r arian i dalu am fwy o arbenigwyr yn Ysbyty y Tywysog Philip?”