Home > Uncategorized > Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig yr AS

CA2 Enillydd Iau Rhiannon Sarah Taylor Searle.

Amser caled oedd o flaen beirniaid y gystadleuaeth carden Nadolig yr wythnos hon wrth ddewis yr enillwyr yng ngystadleuaeth carden Nadolig yr AS allan o dros 450 cynnig a ddaeth o ysgolion cynradd lleol. Y camp oedd cyflwyno cyllun addas i garden Nadolig ar thema cinio Nadolig, a’r beirniaid oedd arlunydd lleol Joan Jones, Rebecca Lewis o Lighthouse Café Porth Tywyn a  Madelaine Phillips sydd wedi graddio mewn astudiaethau ffilm.

Ar ôl crafu pen am gryn dipyn, o’r diwedd daeth y penderfyniad terfynol. Enillydd adran y plant lleiaf oedd Keira Miller, 4 oed, o Ysgol Gynradd Dafen am ei darlun beiddgar iawn o dwrci, ac enillydd yr adran iau oedd Rhiannon Taylor-Searle o Ysgol y Castell am ei dehongliad gwreiddiol iawn o’r thema – asyn yn helpu ei hun i’r moron oedd hefyd yn drwyn i ddyn eira!

CA1 Enillydd adran y plant lleiaf Keira Miller.

Yn ogystal â gweld eu cynlluniau yn cael eu defnyddio ar gyfer Carden Nadolig yr AS, bydd  yr enillwyr yn derbyn fersiwn mewn ffrâm o’u darluniau ac hefyd bydd yr ysgol yn derbyn £100.

Bydd darluniau’r ail yn cael eu dangos mewn ffurf fechan ar gefn y cardiau. Y rhai ddaeth yn ail oedd Hannah Demeo a Jack Stone o Ysgol Babanod Llangennech, Nathan Fisher o Ysgol Maes y Morfa, Rhys Williams  Ysgol y Felin, Chris Chang Ysgol Y Castell, Catrin Pryor Ysgol Iau Gymunedol Porth Tywyn, Sasha Lewis Ysgol V.A.Pentip V.A. a Christian Watts  Ysgol Heol Goffa .  

Cynhelir ardangosfa o ddarluniau’r enillwyr yn ogystal â’r darluniau o roddwyd  gan y beirniaid yn yr adrannau haeddiannol, canmoladwy, canmoladwy mawr a chanmoladwy mawr iawn yn y siop â’r enw Handbags & Gladrags sydd rhwng Taff’s a’r Celtic, gyferbyn â’r siop garpedi, ar un ffordd o Ganolfan Sant Elli i Farchnad Llanelli o’r cyntaf hyd at y 15fed Rhagfyr. Dychwelir y darluniau i’r ysgolion ar ôl 15fed Rhagfyr.