Home > Uncategorized > AS yn Ymweld á Ffatri Ail-Gylchu

Yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd yr Wrthblaid ar Fusnes mae Nia Griffith wedi bod ar daith ymchwiliol i ail-gylchydd metalau ac electronig Sims Metal Management, Casnewydd.

Nia, sydd hefyd yn ysgrifennydd y grwp aml-bleidiol seneddol ar ddur a metal, ymwelodd â Sims Metal Management, Casnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant ail-gychu metalau ac electronig.  Yn croesawu oedd  Ken Mackenzie o Gymdeithas Brydeinig  Ail-gychu Metalau  (BMRA). Mae Sims yn aelod o’r Gymdeithas.

Dywedodd Derek Campbell o Sims Metal Management: “Pleser oedd croesawu Ms Griffith i’r safle yma yng Nghasnewydd i esbonio am ddiwydiant ail-gychu metalau ac i ddangos sut mae ail-gylchu metalau, gan gynnwys Gwastraff Offer Trydan ac Electronig ac oergelloedd. Mae ail-gylchu metalau yn y DU yn chwarae rôl allweddol wrth helpu’r wlad i ostwng ei dibyniaeth ar dirlenwi, i ail-gylchu mwy ac i ostwng allyriadau CO2.”

Dywedodd Nia: “Mae ail-gylchu metalau’n bwysig iawn i dde Cymru ac i economi y DU a gwerthfawr iawn oedd cael cipolwg ar y busnes. Mae ail-gylchu metalau ac electronig yn gystadleuol yn fyd-eang ac yn ddiwydiant pwsig i’r amgychedd, diwydiant y dylwn ymfalchio ynddo. Mae cwmniau fel Sims yn cyfrannu at y nod  amgylcheddol allweddol o ostwng gwastraff a chwtogi ar  allyriadau carbon trwy atal gwastraff metal a nwyddau eraill rhag cael eu lluchio ar safleoedd tirlenwi ac felly eu gweddnewid i fod yn ddefnydd gwerthfawr.”

Dywedodd Ken Mackenzie o Gymdeithas Brydeinig  Ail-gychu Metalau  (BMRA: “’Roedd ymweliad Nia yn ddefnyddiol iawn, Cawsom y cyfle i drafod rhai o’r pynciau allweddol sy’n wynebu ail-gylchwyr metalau yn y DU heddiw.”