Home > Uncategorized > Y Gynhadledd 2011

Mae’r hyn sy’n cael eu penderfynnu yn San Steffan yn dal i fod yn bwysig i ni yng Nghymru. Yn ddiweddar,  ’roeddwn yn Lerpwl yn mynychu Cynhadledd blynyddol y Blaid Lafur. Dyna oedd prawf gweledig bod y problemau sy’n ein wynebu ni yn Llanelli yn hynod o debyg i’r hyn sy’n eu wynebu yn Lerpwl.

Dyna oedd effaith y cwtogi creulon yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r diffyg buddsoddiad yn ein rhwydwaith mewnol – yr infra-structure mewn geiriau eraill.

Mae hyd yn oed y newyddion da yn dod ag amodau amwys. Os ydych yn gyfarwydd ag entrychion y Cyfandir byddwch yn barod am y cwestiwn poblogaidd ar gyfer yr anoraks gwleidyddol. Beth sydd gan Albania a Chymru yn gyffredin? Yr ateb yw absenoldeb yn y naill wlad a’r llall o’r un filltir o drac sydd wedi ei thrydaneiddio.

Dyna pam mae’r newyddion da am drydaneiddio’r trac o Gaerdydd i Lundain yn ein cymell ni  i ofyn “Pryd?” a “Pham?” Mae Llywodraeth y Clymblaid wedi rhoi bywyd newydd i’r hen ystrydeb am “cewch jam yfory.” A oes syniad gan unrhywun pryd cawn ddigwyl i’r drydaneiddio ddigwydd? Pryd bynnag bydd e’n digwydd bydd y mwyafrif ohonom nail ai wedi trigo neu’n henach o lawer.

Yn ail, mae bron pawb yng Nghymru wedi gofyn, “a pham nid i Abertawe a gorllewin Cymru?” Yn lle canolbwyntio ar anghenion Cymru, yr hyn sy’n sbardino datblygiad o’r fath yw, mwy na thebyg, anghenion Heathrow a de dwyrain Lloegr.

Lerpwl, yr Alban, gogledd Lloegr a Chymru. Beth sydd gennym yn gyffredin? Yng ngolwg y Clymblaid, pobl yr ymylon ydym. Mae angen arnom gyd-weithio tan Lafur.