Home > Uncategorized > Gan Bwyll Rhag Penderfynu ar frys ar Gytundebau Newydd

Mae Nia Griffith AS a Keith Davies AC yn galw ar y Cyngor Sir i oedi rhag pennu’r- dyddiad cau i weithwyr arwyddo’r cytundebau newydd, er mwyn rhoi mwy o amser i bawb i gael cyngor ar y goblygiadau ac i weld os oes ffyrdd i leddfu’r canlyniadau llymach.

Yn sgil gwerthuso swyddi – rhywbeth mae gan pob cyngor ddyletswydd i’w wneud i dod i’r afael â phroblem  maent wedi etifeddu sef anghydraddoldebau  ac anghysondebau – mae gweithwyr Cyngor Sir Gâr wedi cael gwybod y mis hwn beth fydd eu cyflog a’u amodau gwaith newydd a fydd yn gadael  traean yn waeth eu byd.

Dywedodd Nia Griffith AS

“Mae’r Cyngor wedi amcangyfrif yn rhy isel o lawer yr effaith byddai’r toriadau cyflog yn cael ar weithwyr. Mae pethau’n waeth oherwydd iddynt gyfuno newidiau yn sgil y gwerthuso swyddi â’r toriadau yng nghyflog staff sy’n gweithio oriau anghymdeithasol ac sy’n wynebu toriad o 25% yn ei lwfans petrol.

“Mae’n amser drwg yn gyffredinol yn sgil rhewi cyflogau yn ddiweddar, pris bwyd a phrisiau tanwydd yn codi yn aruthrol a’r holl beth yn waeth oherwydd i’r Llywodraeth Toriaidd godi TAW, toriadau yn nhaliadau gofal plant, polisiau economig trychinebus  a thoriadau enfawr sy’n golygu nad oes gobaith o swyss well rhywle arall. Mae staff yn teimlo bod ganddynt ddim dewis ond arwyddo cytundebau newydd; cawsant lai na mis i dderbyn cyngor ac i feddwl am y goblygiadau – llai na ddigon o amser. Y cam cyntaf fydd gohirio’r dyddiad cau i weithwyr arwyddo’r cytundebau newydd tan diwedd Tachwedd o leiaf.  Bydd hwnnw yn rhoi amser i bawb i feddwl, i hel cyngor ac i weld os oes ffyrdd i leddfu’r canlyniadau.”