
Dim ond 3 o bobl oedd yn cael mynd mewn i gyflwyno’r ddeiseb i’r Prif Swyddog Tân, felly yn y cyntedd arhosodd gweddill y dirprwyaeth gan gynnwys gohebydd y Llanell Star (heb fod yn y llun).
Nia, Keith a Geoff yn cyflwyno Prif Swyddog Tân Richard Smith â deiseb y Llanelli Star.
Mae Nia Griffith AS, Keith Davies AC a’r Cyng Geoff Thomas wedi cwrdd â Phrif Swyddog Tân Richard Smith i gyflwyno iddo deiseb y Llanelli Star yn galw am DIM TORIADAU I’R GWASANAETH TAN.
Dywedodd Nia, “Mae gan Llanelli y boblogaeth fwyaf yn Sir Gaerfyrddin a brawychus i ddweud y lleiaf yw’r syniad o doriadau i’r gwasanaeth tân – ni allwn ganiatau i hwn ddigwydd. Gallai gadw ein gwasanaeth presennol fydd, yn llythrennol, y gwahaniaeth rhwng byw a marw.
“Mae trigolion Llanelli yn mynnu ac yn haeddu Gwasanaeth Tân sy’n effeithiol a ganddo’r gallu i ymateb yn gyflym.
“Mae’r Llanelli Star wedi arwain gyda’r ddeiseb hon yn erbyn toriadau a all peryglu bywyd, deiseb sydd â chefnogaeth trigolion Llanelli.”