Home > Uncategorized > Aelod Seneddol yn cefnogi pencampwr SgiliauByd

Ychwanegodd Nia Griffth AS ei llongyfarchion at rai Gweinidog y Llywodraeth Gymreig Jeff Cuthbert AC ag ymwelodd â Choleg Sir Gâr i ddathlu llwyddiant David Bowen sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Worldskills 2011 yn Llundain ym mis Hydref. David yw unig aelod o dîm y DU sydd o Gymru. David fydd un o fil o gystadleuwyr a fydd wedi teithio o bedwar ban byd i gystadlu yn Workskills 2011. Mae pedwar deg chwech o adrannau ac mae David yn cystadlu yn yr adran i ddylunio ar gyfer y we, adran lle mae wedi cael llwyddiant yn Awstralia a Ffrainc.