Gweithredu yn gyflym wnaeth Nia Griffith AS a thrigolion Cross Hands pan glywsant bod y Cyngor Cymuned wedi bod yn trafod gwerthu’r gerddi coffa a symud y gofeb rhyfel. Oherwydd hyn mae’r cynghorwyr wedi rhoi sicrwydd i’r trigolion bod dim byd wedi ei benderfynu.
Y Cyng Ryan Thomas, Cross Hands, a rannodd ei bryder â’r AS Nia Griffith a thrigolion lleol yngl?n â’r hyn a drafodwyd gan y cyngor ac yn sgil cyfarfod a gafodd ei fynychu gan lawer o bobl, cafodd Bob Gunstone o Faesyrhaf ei ethol fel cynrychiolydd i ofyn am ganiatad i siarad ar eu cyfer yng nghyfarfod misol Cyngor Cymuned Llannon ar Nos Fercher yn Neuadd y Tymbl.
I wneud yn siwr bod y cynghorwyr cymuned yn sylweddoli gymaint o bryder a achoswyd gan eu trafodaethau, ’roedd y trigolion yn chwifio eu baneri y tu allan i gyfarfod y Cyngor, yn cyflwyno llythyron i Gynghorwyr ac yn gwasgu cymaint â phosibl i mewn i’r ystafell ymgynnull lle cynhaliwyd y cyfarfod. Casglwyd yn ogystal deiseb yn cynnwys dros 200 llofnod ymhlith drigolion lleol, ac hyn mewn un prynhawn.
Bob Gunstone a gyflwynodd y ddeiseb ac yna, wrth siarad ar ran y trigolion, dywedodd, “Dyma le ag arwyddocad arbennig yn perthyn iddo. Yn hytrach na symud y gerddi oddi yma, hoffem weld y Cyngor yn ystyried ychwanegu at y gerddi. Cefais ar ddeall bod Pwll Glo y Twr wedi rhoi ysgubau coffadwriaethol i’r Gymuned a byddant yn hoff o’u gweld yn cael eu arddangos
Wrth nodi ymateb y cynghorwyr, dywedodd Nia Griffith AS, “’Rwyn falch iawn bod cadeirydd y Cyngor, Terry Evans, wedi rhoi caniatad i gynrychiolwr y trigolion i siarad a bod y clerc wedi gwahodd cynrychiolwyr y trigolion i fynychu ymweliad i’r safle yn y Gerddi Coffa. Gofyn mae’r trigolion bod y Cyngor Cymuned yn ymatal rhag gweithredu cynlluniau o unrhyw fath i werthu’r gerddi coffa ac i beidio â gwneud rhagor yngl?n â’r fater tan i ymgynghoriad ystyrlon ddigwydd gyda thrigolion Cross Hands, gan gynnwys cyfarfod cyhoeddus.”