Home > Uncategorized > Ni does gan Llywodraeth Glymblaid Con-Dem gynllun ar gyfer naill ai swyddi neu dwf

Mewn ymateb i Adolygiad Cynhwysfawr y Llywodraeth ar Wariant, mae Nia Griffith AS yn pryderu am bobl yn ardal Llanelli wrth iddynt gadw eu swyddi, gadw eu cartrefi a chadw’n ddiogel.

Mae Nia yn esbonio: “Mae’r toriadau yn rhy ddwfn ac yn rhy gyflym, ac yn cymryd siawns beryglus â’n dyfodol economaidd a swyddi pobl. Heb dwf, mae’n amhosib ostwng y dyled. Os ydy’r Llywodraeth yn taflu pobl ar y clwt, mae’n costio’n fwy i ni i gyd. Felly, er mwyn gostwng y dyled, mae’n rhaid ddechrau gyda swyddi. Mae torri lawr ar y sector cyhoeddus yn cael effaith niweidiol yn ei dro ar swyddi yn y sector preifat, gan fod llawer o weithwyr, fel y rhai yn y diwydiant adeiladu,  yn dibynnu ar waith yn y sector cyhoeddus.Bydd y  toriadau hyn sy’n cymryd o gwmpas £81 biliwn allan o’r economi yn rhwystr ddifrifol i adfer yr economi. Gamblo’n beryglus yw hyn gyda’n dyfodol economaidd a gyda swyddi pobl.”