Mae Keith Davies, Ymgeisydd Llafur y Cynulliad a Nia Griffith AS wedi dechrau deiseb i ddweud wrth y Bwrdd Iechyd Lleol ein bod am gadw’r HOLL wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Tywysog Philip.
Fel yr esboniodd Nia Griffith AS, “Nawr yw’r amser tra bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn llunio eu strategaeth pum-mlynedd, i ddweud wrthynt yn blwmp ac yn blaen ein bod am gadw’r holl wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Tywysog Philip a’n bod yn gwrthod derbyn toriadau tameidiog. ’Rwy wedi gwneud hyn yn hollol glir i uwch reolwyr y bwrdd iechyd lleol.”
Dywedodd Keith Davies, yr ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, “Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod y Bwrdd yn gwrando ar bobl Llanelli. Dyma lle mae trwch poblogaeth Sir Gâr ac ’rydym yn haeddu ystod cyflawn o wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip. Nawr yw’r amser i ddweud ein dweud wrth y Bwrdd cyn bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a chyn ei bod yn rhy hwyr.”
Os ydych am ychwanegu eich enw at y deiseb, neu am gael copïau i’w dosbarthu, cysylltwch â Keith Davies ar 07875416595 neu Nia Griffith AS ar 01554 756374.
Nia yn Siarad yn Gadarn Am Ysbyty Llanelli
Wrth siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y diwrnod o wybodaeth gyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Selwyn Samuel, gofynnodd Nia i gyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Hywel Dda a’r Rheolwr Cynllunio am y gor-ddefnydd o adnoddau’r ambwlans ac am wella’r proses o ddenu staff. Dywedodd Nia, “’Rydych wedi dweud mai nid arian ond yn hytrach [...]
Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig yr AS
Amser caled oedd o flaen beirniaid y gystadleuaeth carden Nadolig yr wythnos hon wrth ddewis yr enillwyr yng ngystadleuaeth carden Nadolig yr AS allan o dros 450 cynnig a ddaeth o ysgolion cynradd lleol. Y camp oedd cyflwyno cyllun addas i garden Nadolig ar thema cinio Nadolig, a’r beirniaid oedd arlunydd lleol Joan Jones, Rebecca [...]
AS yn codi £1,500 i elusen iechyd meddwl cyn-fllwyr
Ar Ddydd Sul 6ed Tachwedd am 11 y bore, diolch i Gymdeithas Gyn-filwyr Llanelli, codwyd Nia Griffith AS dros £1500 trwy gymryd rhan mewn “abseil” wedi ei noddi yn Dinas Rock, Pontneddfechan. Aeth yr elw at ‘Combat Stress’ elusen filwrol fwyaf y DU sy’n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl cyn-filwyr Disgynnodd 200 troedfedd ar ei [...]
AS yn Ymweld á Ffatri Ail-Gylchu
Yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd yr Wrthblaid ar Fusnes mae Nia Griffith wedi bod ar daith ymchwiliol i ail-gylchydd metalau ac electronig Sims Metal Management, Casnewydd. Nia, sydd hefyd yn ysgrifennydd y grwp aml-bleidiol seneddol ar ddur a metal, ymwelodd â Sims Metal Management, Casnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant ail-gychu metalau ac [...]
Aelod Seneddol yn cefnogi pencampwr SgiliauByd
Ychwanegodd Nia Griffth AS ei llongyfarchion at rai Gweinidog y Llywodraeth Gymreig Jeff Cuthbert AC ag ymwelodd â Choleg Sir Gâr i ddathlu llwyddiant David Bowen sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Worldskills 2011 yn Llundain ym mis Hydref. David yw unig aelod o dîm y DU sydd o Gymru. David fydd un o fil o [...]
Leave a Comment