Home > Uncategorized > Yn ymgyrchu i ddiogelu ein HOLL wasanaethau ysbyty

Mae Keith Davies, Ymgeisydd Llafur y Cynulliad a Nia Griffith AS wedi dechrau deiseb i ddweud wrth y Bwrdd  Iechyd Lleol ein bod am gadw’r HOLL wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Tywysog Philip.

Fel yr esboniodd Nia Griffith AS, “Nawr yw’r amser tra bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn llunio eu strategaeth pum-mlynedd, i ddweud wrthynt yn blwmp ac yn blaen ein bod am gadw’r holl wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Tywysog Philip  a’n bod yn gwrthod derbyn toriadau tameidiog. ’Rwy wedi gwneud hyn yn hollol glir i uwch reolwyr y bwrdd iechyd lleol.”

Dywedodd Keith Davies, yr ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, “Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod y Bwrdd yn gwrando ar bobl Llanelli. Dyma lle mae trwch poblogaeth Sir Gâr ac ’rydym yn haeddu ystod cyflawn o wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip. Nawr yw’r amser i ddweud ein dweud wrth y Bwrdd cyn bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a chyn ei bod yn rhy hwyr.”

Os ydych am ychwanegu eich enw at y deiseb, neu am gael copïau i’w dosbarthu, cysylltwch â Keith Davies ar 07875416595 neu Nia Griffith AS ar 01554 756374.