
Mae’r Cyng Hubert Hitchman a Nia yn brwydro i gadw’r croesfan yn agored.
Mae Nia Griffith AS a Keith Davies, ymgeisydd Llafur y Cynulliad yn cefnogi cynghorwyr y dref sy’n erfyn ar Network Rail i gadw yn agored croesfan Ffordd Glanmor.
Mewn datganiad cryf i Network Rail, mae Nia wedi pwysleisio’r angen i gadw croesfan Ffordd Glanmor yn agored er mwyn osgoi tagfeydd enfawr ar groesfan ar Ffordd y Doc Newydd. “Mae angen gadw’r groesfan hon yn agored neu fe fydd anhrefn llwyr ar Ffordd y Doc Newydd,“
Dywedodd Keith Davies, “Er bod stop ar bopeth ar hyn o bryd, mae safle Draka Ffordd Copperworks wedi cael ei neilltio ar gyfer ysgol gynradd newydd, ac felly fe fydd cynnydd yn y traffig, a thwpdra o’r mwyaf fyddai cau un o’r croesfannau. Byddwn yn brwydro bob cam o’r ffordd yn erbyn cau croesfan.”
Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig yr AS
Amser caled oedd o flaen beirniaid y gystadleuaeth carden Nadolig yr wythnos hon wrth ddewis yr enillwyr yng ngystadleuaeth carden Nadolig yr AS allan o dros 450 cynnig a ddaeth o ysgolion cynradd lleol. Y camp oedd cyflwyno cyllun addas i garden Nadolig ar thema cinio Nadolig, a’r beirniaid oedd arlunydd lleol Joan Jones, Rebecca [...]
AS yn codi £1,500 i elusen iechyd meddwl cyn-fllwyr
Ar Ddydd Sul 6ed Tachwedd am 11 y bore, diolch i Gymdeithas Gyn-filwyr Llanelli, codwyd Nia Griffith AS dros £1500 trwy gymryd rhan mewn “abseil” wedi ei noddi yn Dinas Rock, Pontneddfechan. Aeth yr elw at ‘Combat Stress’ elusen filwrol fwyaf y DU sy’n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl cyn-filwyr Disgynnodd 200 troedfedd ar ei [...]
AS yn Ymweld á Ffatri Ail-Gylchu
Yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd yr Wrthblaid ar Fusnes mae Nia Griffith wedi bod ar daith ymchwiliol i ail-gylchydd metalau ac electronig Sims Metal Management, Casnewydd. Nia, sydd hefyd yn ysgrifennydd y grwp aml-bleidiol seneddol ar ddur a metal, ymwelodd â Sims Metal Management, Casnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant ail-gychu metalau ac [...]
Aelod Seneddol yn cefnogi pencampwr SgiliauByd
Ychwanegodd Nia Griffth AS ei llongyfarchion at rai Gweinidog y Llywodraeth Gymreig Jeff Cuthbert AC ag ymwelodd â Choleg Sir Gâr i ddathlu llwyddiant David Bowen sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Worldskills 2011 yn Llundain ym mis Hydref. David yw unig aelod o dîm y DU sydd o Gymru. David fydd un o fil o [...]
Aelod Seneddol a thrigolion yn gorfodi’r Cyngor i ailfeddwl cynlluniau i werthu’r Gerddi Coffa yn Cross Hands
Gweithredu yn gyflym wnaeth Nia Griffith AS a thrigolion Cross Hands pan glywsant bod y Cyngor Cymuned wedi bod yn trafod gwerthu’r gerddi coffa a symud y gofeb rhyfel. Oherwydd hyn mae’r cynghorwyr wedi rhoi sicrwydd i’r trigolion bod dim byd wedi ei benderfynu. Y Cyng Ryan Thomas, Cross Hands, a rannodd ei bryder â’r [...]
Leave a Comment