AS yn cefnogi Apel y Parc

Yn ddiweddar ymunodd Nia Griffith AS a Keith Davies AC â rhieni a phlant Porth Tywyn am ddiwrnod o hwyl yn y parc. Diolch i weledigaeth a dyfalbarad y Cyng Mary Wenman, sefydlwyd Pwyllgor Apel Parc Porth Tywyn flwyddyn yn ôl ac erbyn hyn mae wedi cael £100,000 o’r Gronfa’r Ardoll Agregau ar gyfer Cymru i wella’r deunydd chwarae ym Mharc  Porth Tywyn. Dywedodd  Mary sy’cadeirydd y pwyllgor ac yn Ddirprwy Faer Porth Tywyn eleni, “ ‘Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y grant, ac hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu, ond mae’n rhaid codi mwy o arian ac o ymwybyddiaeth, felly rydym yn gwneud mwy o geisiadau am grant a chynnal digwyddiadau codi arian..”
Dywedodd Nia Griffith AS, “Llongyfarchiadau i’r pwyllgor am ennill y grant yma sy’n ein rhoi ar y ffordd i wella man chwarae’r plantos a darparu Ardal ChwaraeonPobl Ifanc. Roedd yn wych weld pawb allan yn mwynhau Diwrnod o hwyl yn y parc.”

Ni does gan Llywodraeth Glymblaid Con-Dem gynllun ar gyfer naill ai swyddi neu dwf

Mewn ymateb i Adolygiad Cynhwysfawr y Llywodraeth ar Wariant, mae Nia Griffith AS yn pryderu am bobl yn ardal Llanelli wrth iddynt gadw eu swyddi, gadw eu cartrefi a chadw’n ddiogel.

Mae Nia yn esbonio: “Mae’r toriadau yn rhy ddwfn ac yn rhy gyflym, ac yn cymryd siawns beryglus â’n dyfodol economaidd a swyddi pobl. Heb dwf, mae’n amhosib ostwng y dyled. Os ydy’r Llywodraeth yn taflu pobl ar y clwt, mae’n costio’n fwy i ni i gyd. Felly, er mwyn gostwng y dyled, mae’n rhaid ddechrau gyda swyddi. Mae torri lawr ar y sector cyhoeddus yn cael effaith niweidiol yn ei dro ar swyddi yn y sector preifat, gan fod llawer o weithwyr, fel y rhai yn y diwydiant adeiladu,  yn dibynnu ar waith yn y sector cyhoeddus.Bydd y  toriadau hyn sy’n cymryd o gwmpas £81 biliwn allan o’r economi yn rhwystr ddifrifol i adfer yr economi. Gamblo’n beryglus yw hyn gyda’n dyfodol economaidd a gyda swyddi pobl.”

Ysgol Ffwrnes yn ymweld â’r Senedd

Pleser mawr i fi oedd croesawu  gr?p o ddisgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Ffwrnes ar ymweliad i San Steffan. Yn gyntaf cawsant daith dywysedig  o gwmpas San Steffan, gan ymweld â Siambr y T? Cyffredin a Th?’r Arglwyddi.

’Roedd yr orsedd lle eisteddai’r Frenhines ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd wedi dwyn sylw arbennig. Nesaf, y wers oedd sut mae’r Senedd yn deddfu a phleidleisiasant dros ddeddf a oedd yn gwahardd gwaith cartref. Tybed beth fyddai ymateb eu rhieni i hynny! Yna, cawsom drafodaeth gyffredinol am fy ngwaith fel aelod seneddol. Os hoffech chi ymweld â’r Senedd, mae croeso i chi gysylltu â’m swyddfa.

Keith a Nia yn ymgyrchu i gadw cartrefi gofal

Mae Nia Griffith AS ac ymgeisydd Llafur y Cynulliad  Keith Davies wedi ymuno ag undebau Llafur ac ymgyrchwyr  i frwydro yn erbyn cau cartrefi gofal. Mewn cyfarfod cyhoeddus, dywedodd Keith, “Mae’n rhaid i ni gydweithio  i arghoeddi pob cynghorydd ar Gyngor Sir Gâr i gefnogi ein  galwad i gadw’r  cartrefi gofal yn agored. Amwys yw’r adroddiad dwedddaraf ac  ’rydym yn galw am sicrwydd pendant ar  ddyfodol y cartrefi yn Llanelli, yn ogystal â’r rhai hynny yn Rhydaman a Chaerfyrdin.” Ychwanegodd Nia, “Mae arnom angen y dewis o ofal preswyl llawn-amser yn nwylo’r awdurdod lleol. Dwedwn NA i breifateiddio oherwydd ei fod yn  arwain at wneud yr hyn a’r  hyn am y nesaf peth i ddim.  Mae hyn yn golygu naill ai llai o  ofal neu waeth gyflog ac amodau  gwaeth  i weithwyr.  ’Rydym  am gael y gorau posib ar gyfer ein dinasyddion h?n, a dim byd  llai.”

Yn ymgyrchu i ddiogelu ein HOLL wasanaethau ysbyty

Mae Keith Davies, Ymgeisydd Llafur y Cynulliad a Nia Griffith AS wedi dechrau deiseb i ddweud wrth y Bwrdd  Iechyd Lleol ein bod am gadw’r HOLL wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Tywysog Philip.

Fel yr esboniodd Nia Griffith AS, “Nawr yw’r amser tra bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn llunio eu strategaeth pum-mlynedd, i ddweud wrthynt yn blwmp ac yn blaen ein bod am gadw’r holl wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Tywysog Philip  a’n bod yn gwrthod derbyn toriadau tameidiog. ’Rwy wedi gwneud hyn yn hollol glir i uwch reolwyr y bwrdd iechyd lleol.”

Dywedodd Keith Davies, yr ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, “Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr bod y Bwrdd yn gwrando ar bobl Llanelli. Dyma lle mae trwch poblogaeth Sir Gâr ac ’rydym yn haeddu ystod cyflawn o wasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip. Nawr yw’r amser i ddweud ein dweud wrth y Bwrdd cyn bod penderfyniadau yn cael eu gwneud a chyn ei bod yn rhy hwyr.”

Os ydych am ychwanegu eich enw at y deiseb, neu am gael copïau i’w dosbarthu, cysylltwch â Keith Davies ar 07875416595 neu Nia Griffith AS ar 01554 756374.

Ymgyrchu i gadw’r ddwy groesfan yn agored

Mae’r Cyng Hubert Hitchman a Nia yn brwydro i gadw’r croesfan yn agored.

Mae Nia Griffith AS a Keith Davies, ymgeisydd Llafur y Cynulliad yn cefnogi cynghorwyr y dref sy’n erfyn ar Network Rail i gadw yn agored croesfan Ffordd Glanmor.

Mewn datganiad cryf i Network Rail, mae Nia wedi pwysleisio’r angen i gadw croesfan Ffordd Glanmor yn agored er mwyn osgoi tagfeydd enfawr ar groesfan ar Ffordd y Doc Newydd. “Mae angen gadw’r groesfan hon yn agored neu fe fydd anhrefn llwyr ar Ffordd y Doc Newydd,“

Dywedodd Keith Davies, “Er bod stop ar bopeth ar hyn o bryd, mae safle Draka Ffordd Copperworks wedi cael ei neilltio ar gyfer ysgol gynradd newydd, ac felly fe fydd cynnydd yn y traffig, a thwpdra o’r mwyaf fyddai cau un o’r croesfannau. Byddwn yn brwydro bob cam o’r ffordd yn erbyn cau croesfan.”

Carnifal Glanymor

Nia gyda Stephanie, Marlene a Pete o Bwyllgor y Carnifal.

Diolch yn fawr iawn i holl drefnwyr, Carnifal Glanmor; ‘roedd yn ddiwrnod i’w gofio!