Nia yn Siarad yn Gadarn Am Ysbyty Llanelli

Nia yn gwrando ar Margaret Smith a Ray Lewis yn ystod diwrnod ymgynghori yr Ysbyty

Nia yn holi penaethiaid yr Ysbyty am adnoddau ambwlans ac am wella y ffyrdd o ddenu staff newydd

 

Wrth siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod yn y diwrnod o wybodaeth gyhoeddus a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Selwyn Samuel, gofynnodd Nia i gyfarwyddwr Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Hywel Dda a’r Rheolwr Cynllunio am y gor-ddefnydd o adnoddau’r ambwlans ac am wella’r proses o ddenu staff.

Dywedodd Nia, “’Rydych wedi dweud  mai nid arian ond yn hytrach anhawster denu staff â chymwysterau priodol sy’n achosi canoli gwasanaethau. Beth am ddatblygu cysylltiadau agosach â’r Ysgol Feddygaeth newydd yn Abertawe, a cheisio o ddifrif cynnig i ddoctoriaid  pecynnau atyniadol er mwyn eu hybu i ddod yma?

“A pha gyfrifiad a wnaed am y costau ychwanegol o brynu a rhedeg mwy o ambwlansys er mwyn cludo cleifion i Langwili neu Withybush os nad yw’r gwasanaethau ar gael bellach yn Ysbyty y Tywysog Philip? Yn lle hynny, beth am ddefnyddio’r arian i dalu  am fwy o arbenigwyr yn Ysbyty y Tywysog Philip?”

Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig yr AS

CA2 Enillydd Iau Rhiannon Sarah Taylor Searle.

Amser caled oedd o flaen beirniaid y gystadleuaeth carden Nadolig yr wythnos hon wrth ddewis yr enillwyr yng ngystadleuaeth carden Nadolig yr AS allan o dros 450 cynnig a ddaeth o ysgolion cynradd lleol. Y camp oedd cyflwyno cyllun addas i garden Nadolig ar thema cinio Nadolig, a’r beirniaid oedd arlunydd lleol Joan Jones, Rebecca Lewis o Lighthouse Café Porth Tywyn a  Madelaine Phillips sydd wedi graddio mewn astudiaethau ffilm.

Ar ôl crafu pen am gryn dipyn, o’r diwedd daeth y penderfyniad terfynol. Enillydd adran y plant lleiaf oedd Keira Miller, 4 oed, o Ysgol Gynradd Dafen am ei darlun beiddgar iawn o dwrci, ac enillydd yr adran iau oedd Rhiannon Taylor-Searle o Ysgol y Castell am ei dehongliad gwreiddiol iawn o’r thema – asyn yn helpu ei hun i’r moron oedd hefyd yn drwyn i ddyn eira!

CA1 Enillydd adran y plant lleiaf Keira Miller.

Yn ogystal â gweld eu cynlluniau yn cael eu defnyddio ar gyfer Carden Nadolig yr AS, bydd  yr enillwyr yn derbyn fersiwn mewn ffrâm o’u darluniau ac hefyd bydd yr ysgol yn derbyn £100.

Bydd darluniau’r ail yn cael eu dangos mewn ffurf fechan ar gefn y cardiau. Y rhai ddaeth yn ail oedd Hannah Demeo a Jack Stone o Ysgol Babanod Llangennech, Nathan Fisher o Ysgol Maes y Morfa, Rhys Williams  Ysgol y Felin, Chris Chang Ysgol Y Castell, Catrin Pryor Ysgol Iau Gymunedol Porth Tywyn, Sasha Lewis Ysgol V.A.Pentip V.A. a Christian Watts  Ysgol Heol Goffa .  

Cynhelir ardangosfa o ddarluniau’r enillwyr yn ogystal â’r darluniau o roddwyd  gan y beirniaid yn yr adrannau haeddiannol, canmoladwy, canmoladwy mawr a chanmoladwy mawr iawn yn y siop â’r enw Handbags & Gladrags sydd rhwng Taff’s a’r Celtic, gyferbyn â’r siop garpedi, ar un ffordd o Ganolfan Sant Elli i Farchnad Llanelli o’r cyntaf hyd at y 15fed Rhagfyr. Dychwelir y darluniau i’r ysgolion ar ôl 15fed Rhagfyr.

AS yn codi £1,500 i elusen iechyd meddwl cyn-fllwyr

Ar Ddydd Sul 6ed Tachwedd am 11 y bore, diolch i Gymdeithas Gyn-filwyr Llanelli, codwyd Nia Griffith AS dros £1500 trwy gymryd rhan mewn “abseil” wedi ei noddi yn Dinas Rock, Pontneddfechan. Aeth yr elw at ‘Combat Stress’ elusen filwrol fwyaf y DU  sy’n arbenigo mewn gofal iechyd meddwl cyn-filwyr

Disgynnodd 200 troedfedd ar  ei phen ei hun o gopa craig, hyd yn oed wrth drin â rhwystrau ar y ffordd i lawr heb gwympo. Llongyfarchodd hi gan Lt Col David Mathias Llywydd Cymdeithas Gyn-filwyr Llanelli a sylw Gwyn Daniel, y Cadeirydd oedd, “ Mae hi’n haeddu clod am ei dewrder. Dyna ddynes ddewr iawn.”

Ymateb Nia Griffith AS oedd

“ Hoffwn ddiolch i Gareth Mathias am drefnu’r achlysur ac am fy mherswadio oddi ar y dibyn a Llywydd Cymdeithas Gyn-filwyr Llanelli Lt Col David Mathias, eu cadeirydd Gwyn Daniel ac holl aelodau Cymdeithas Gyn-filwyr Llanelli a ddaeth allan i roi hwb i fi neu sydd wedi helpu casglu arian nawdd. ’Rwyn wrth fy modd eu bod wedi dewis Combat Stress fel eu helusen eleni, oherwydd, am rhy hir nid ydym wedi talu digon o sylw i‘r canlyniadau ysgubol ar iechyd meddwl mae’n bosib i ddynion a menywod ddioddef  yn sgil gyrfa o wasanaeth. Braint oedd cymryd rhan yn y digwyddiadau heddiw ac rwyn ffyddiog bydd yr arian a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio’n gall gan Combat Stree yma yng Nghymru.”

Dywedodd Jake Rattray o Combat Stress, sy’n gyfrifol am Dde a Gorllewin Cymru, “’Rydym yn dibynnu ar roddion i  gynnal gwaith y mudiad ac ’rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n cyfrannu at ddigwyddiadau fel hyn.” 

Mae gwaith Combat Stress yn holl-bwysig i Gyn-Filwyr sy’n addasu eu hunain ar gyfer bywyd wedi ymadael â Gwasanaeth Milwrol, wrth ofalu am ddynion a menywod sy’n dioddef o gyflwr meddwl sydd wedi ei effeithio gan eu gwasanaeth milwrol. Mae help yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim ac fel hyn mae wedi bod ers ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar hyn o bryd maent yng nghanol ymgyrch tair blynedd i godi arian, ‘The Enemy Within Appeal’ a lawnsiwyd gan Dywysog Cymru.

AS yn Ymweld á Ffatri Ail-Gylchu

Yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd yr Wrthblaid ar Fusnes mae Nia Griffith wedi bod ar daith ymchwiliol i ail-gylchydd metalau ac electronig Sims Metal Management, Casnewydd.

Nia, sydd hefyd yn ysgrifennydd y grwp aml-bleidiol seneddol ar ddur a metal, ymwelodd â Sims Metal Management, Casnewydd i ddysgu mwy am y diwydiant ail-gychu metalau ac electronig.  Yn croesawu oedd  Ken Mackenzie o Gymdeithas Brydeinig  Ail-gychu Metalau  (BMRA). Mae Sims yn aelod o’r Gymdeithas.

Dywedodd Derek Campbell o Sims Metal Management: “Pleser oedd croesawu Ms Griffith i’r safle yma yng Nghasnewydd i esbonio am ddiwydiant ail-gychu metalau ac i ddangos sut mae ail-gylchu metalau, gan gynnwys Gwastraff Offer Trydan ac Electronig ac oergelloedd. Mae ail-gylchu metalau yn y DU yn chwarae rôl allweddol wrth helpu’r wlad i ostwng ei dibyniaeth ar dirlenwi, i ail-gylchu mwy ac i ostwng allyriadau CO2.”

Dywedodd Nia: “Mae ail-gylchu metalau’n bwysig iawn i dde Cymru ac i economi y DU a gwerthfawr iawn oedd cael cipolwg ar y busnes. Mae ail-gylchu metalau ac electronig yn gystadleuol yn fyd-eang ac yn ddiwydiant pwsig i’r amgychedd, diwydiant y dylwn ymfalchio ynddo. Mae cwmniau fel Sims yn cyfrannu at y nod  amgylcheddol allweddol o ostwng gwastraff a chwtogi ar  allyriadau carbon trwy atal gwastraff metal a nwyddau eraill rhag cael eu lluchio ar safleoedd tirlenwi ac felly eu gweddnewid i fod yn ddefnydd gwerthfawr.”

Dywedodd Ken Mackenzie o Gymdeithas Brydeinig  Ail-gychu Metalau  (BMRA: “’Roedd ymweliad Nia yn ddefnyddiol iawn, Cawsom y cyfle i drafod rhai o’r pynciau allweddol sy’n wynebu ail-gylchwyr metalau yn y DU heddiw.”

Aelod Seneddol yn cefnogi pencampwr SgiliauByd

Ychwanegodd Nia Griffth AS ei llongyfarchion at rai Gweinidog y Llywodraeth Gymreig Jeff Cuthbert AC ag ymwelodd â Choleg Sir Gâr i ddathlu llwyddiant David Bowen sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth Worldskills 2011 yn Llundain ym mis Hydref. David yw unig aelod o dîm y DU sydd o Gymru. David fydd un o fil o gystadleuwyr a fydd wedi teithio o bedwar ban byd i gystadlu yn Workskills 2011. Mae pedwar deg chwech o adrannau ac mae David yn cystadlu yn yr adran i ddylunio ar gyfer y we, adran lle mae wedi cael llwyddiant yn Awstralia a Ffrainc.

Aelod Seneddol a thrigolion yn gorfodi’r Cyngor i ailfeddwl cynlluniau i werthu’r Gerddi Coffa yn Cross Hands

Gweithredu yn gyflym wnaeth Nia Griffith AS a thrigolion Cross Hands pan glywsant bod y Cyngor Cymuned  wedi bod yn trafod gwerthu’r gerddi coffa a symud y gofeb rhyfel.  Oherwydd hyn mae’r cynghorwyr wedi rhoi sicrwydd i’r trigolion bod dim byd wedi ei benderfynu.

Y Cyng  Ryan Thomas, Cross Hands, a rannodd ei bryder  â’r AS Nia Griffith a thrigolion lleol yngl?n â’r hyn a drafodwyd gan y cyngor ac yn sgil cyfarfod a gafodd ei fynychu gan lawer o bobl, cafodd Bob Gunstone o Faesyrhaf ei ethol fel cynrychiolydd i ofyn am ganiatad i siarad ar  eu cyfer yng nghyfarfod misol Cyngor Cymuned Llannon ar Nos Fercher yn Neuadd y Tymbl.

I wneud yn siwr bod y cynghorwyr cymuned yn sylweddoli gymaint o bryder a achoswyd gan eu trafodaethau, ’roedd y trigolion yn chwifio eu baneri y tu allan i gyfarfod y Cyngor, yn cyflwyno llythyron i Gynghorwyr  ac yn gwasgu cymaint â phosibl i mewn i’r ystafell ymgynnull lle cynhaliwyd y cyfarfod. Casglwyd yn ogystal deiseb yn cynnwys dros 200 llofnod ymhlith drigolion lleol, ac hyn mewn un prynhawn.

Bob Gunstone a gyflwynodd y ddeiseb ac yna, wrth siarad ar ran y trigolion, dywedodd, “Dyma le ag arwyddocad arbennig yn perthyn iddo. Yn hytrach na symud y gerddi oddi yma, hoffem weld y Cyngor yn ystyried ychwanegu at y gerddi. Cefais ar ddeall bod Pwll Glo y Twr wedi rhoi ysgubau coffadwriaethol i’r Gymuned a byddant yn hoff o’u gweld yn cael eu arddangos

Wrth nodi ymateb y cynghorwyr, dywedodd Nia Griffith AS, “’Rwyn falch iawn bod cadeirydd y Cyngor, Terry Evans, wedi rhoi caniatad i gynrychiolwr y trigolion i siarad a bod y clerc wedi gwahodd cynrychiolwyr y trigolion i fynychu ymweliad i’r safle yn y Gerddi Coffa. Gofyn mae’r trigolion bod y Cyngor Cymuned yn ymatal rhag gweithredu cynlluniau o unrhyw fath i werthu’r gerddi coffa ac i beidio â gwneud rhagor yngl?n â’r fater tan i ymgynghoriad ystyrlon ddigwydd gyda thrigolion Cross Hands, gan gynnwys cyfarfod cyhoeddus.”

Y Gynhadledd 2011

Mae’r hyn sy’n cael eu penderfynnu yn San Steffan yn dal i fod yn bwysig i ni yng Nghymru. Yn ddiweddar,  ’roeddwn yn Lerpwl yn mynychu Cynhadledd blynyddol y Blaid Lafur. Dyna oedd prawf gweledig bod y problemau sy’n ein wynebu ni yn Llanelli yn hynod o debyg i’r hyn sy’n eu wynebu yn Lerpwl.

Dyna oedd effaith y cwtogi creulon yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r diffyg buddsoddiad yn ein rhwydwaith mewnol – yr infra-structure mewn geiriau eraill.

Mae hyd yn oed y newyddion da yn dod ag amodau amwys. Os ydych yn gyfarwydd ag entrychion y Cyfandir byddwch yn barod am y cwestiwn poblogaidd ar gyfer yr anoraks gwleidyddol. Beth sydd gan Albania a Chymru yn gyffredin? Yr ateb yw absenoldeb yn y naill wlad a’r llall o’r un filltir o drac sydd wedi ei thrydaneiddio.

Dyna pam mae’r newyddion da am drydaneiddio’r trac o Gaerdydd i Lundain yn ein cymell ni  i ofyn “Pryd?” a “Pham?” Mae Llywodraeth y Clymblaid wedi rhoi bywyd newydd i’r hen ystrydeb am “cewch jam yfory.” A oes syniad gan unrhywun pryd cawn ddigwyl i’r drydaneiddio ddigwydd? Pryd bynnag bydd e’n digwydd bydd y mwyafrif ohonom nail ai wedi trigo neu’n henach o lawer.

Yn ail, mae bron pawb yng Nghymru wedi gofyn, “a pham nid i Abertawe a gorllewin Cymru?” Yn lle canolbwyntio ar anghenion Cymru, yr hyn sy’n sbardino datblygiad o’r fath yw, mwy na thebyg, anghenion Heathrow a de dwyrain Lloegr.

Lerpwl, yr Alban, gogledd Lloegr a Chymru. Beth sydd gennym yn gyffredin? Yng ngolwg y Clymblaid, pobl yr ymylon ydym. Mae angen arnom gyd-weithio tan Lafur.

Gan Bwyll Rhag Penderfynu ar frys ar Gytundebau Newydd

Mae Nia Griffith AS a Keith Davies AC yn galw ar y Cyngor Sir i oedi rhag pennu’r- dyddiad cau i weithwyr arwyddo’r cytundebau newydd, er mwyn rhoi mwy o amser i bawb i gael cyngor ar y goblygiadau ac i weld os oes ffyrdd i leddfu’r canlyniadau llymach.

Yn sgil gwerthuso swyddi – rhywbeth mae gan pob cyngor ddyletswydd i’w wneud i dod i’r afael â phroblem  maent wedi etifeddu sef anghydraddoldebau  ac anghysondebau – mae gweithwyr Cyngor Sir Gâr wedi cael gwybod y mis hwn beth fydd eu cyflog a’u amodau gwaith newydd a fydd yn gadael  traean yn waeth eu byd.

Dywedodd Nia Griffith AS

“Mae’r Cyngor wedi amcangyfrif yn rhy isel o lawer yr effaith byddai’r toriadau cyflog yn cael ar weithwyr. Mae pethau’n waeth oherwydd iddynt gyfuno newidiau yn sgil y gwerthuso swyddi â’r toriadau yng nghyflog staff sy’n gweithio oriau anghymdeithasol ac sy’n wynebu toriad o 25% yn ei lwfans petrol.

“Mae’n amser drwg yn gyffredinol yn sgil rhewi cyflogau yn ddiweddar, pris bwyd a phrisiau tanwydd yn codi yn aruthrol a’r holl beth yn waeth oherwydd i’r Llywodraeth Toriaidd godi TAW, toriadau yn nhaliadau gofal plant, polisiau economig trychinebus  a thoriadau enfawr sy’n golygu nad oes gobaith o swyss well rhywle arall. Mae staff yn teimlo bod ganddynt ddim dewis ond arwyddo cytundebau newydd; cawsant lai na mis i dderbyn cyngor ac i feddwl am y goblygiadau – llai na ddigon o amser. Y cam cyntaf fydd gohirio’r dyddiad cau i weithwyr arwyddo’r cytundebau newydd tan diwedd Tachwedd o leiaf.  Bydd hwnnw yn rhoi amser i bawb i feddwl, i hel cyngor ac i weld os oes ffyrdd i leddfu’r canlyniadau.”

CYFLWYNO DEISEB YN ERBYN TORIADAU I’R GWASANAETH TAN

Dim ond 3 o bobl oedd yn cael mynd mewn i gyflwyno’r ddeiseb i’r Prif Swyddog Tân, felly yn y cyntedd arhosodd gweddill y dirprwyaeth gan gynnwys gohebydd y Llanell Star (heb fod yn y llun).

Nia, Keith a Geoff yn cyflwyno Prif Swyddog Tân Richard Smith â deiseb y Llanelli Star.

Mae Nia Griffith AS, Keith Davies AC a’r Cyng Geoff Thomas wedi cwrdd â Phrif Swyddog Tân Richard Smith i gyflwyno iddo deiseb y Llanelli Star yn galw am DIM TORIADAU I’R GWASANAETH TAN.

Dywedodd Nia, “Mae gan Llanelli y boblogaeth fwyaf yn Sir Gaerfyrddin a brawychus i ddweud y lleiaf yw’r syniad o doriadau i’r gwasanaeth  tân – ni allwn ganiatau i hwn ddigwydd. Gallai gadw ein gwasanaeth presennol fydd, yn llythrennol, y gwahaniaeth rhwng byw a marw.

“Mae trigolion Llanelli yn mynnu ac yn haeddu Gwasanaeth Tân sy’n effeithiol a ganddo’r gallu i ymateb yn gyflym.

“Mae’r Llanelli Star wedi arwain gyda’r ddeiseb hon yn erbyn toriadau  a all peryglu bywyd, deiseb sydd â chefnogaeth trigolion Llanelli.”

AS yn herio’r Cynghellor i ysgogi twf yn yr economi.

Dennis Lewis MD yn hebrwng Nia o gwmpas Dividers Modernfold

Wrth i’r Senedd gael ei ail-ymgynnull yr haf hwn, heriodd Nia Griffith AS y Cynghellor, George Osborne i ddweud yn blwmp ac yn blaen yr hyn mae’n golygu wneud i ysgogi twf a phryniant yn yr economi er mwyn creu swyddi yn y sector preifat gan fod lawer o gwmniau sy’n cynhyrchu deunydd adeiladu fel ffatri Dividers Modernfold yn Dafen, yn dioddef oherwydd y toriadau yn sgil y cwymp mewn caffael a chontractau cyhoeddus, er enghraifft codi ysgolion ac ysbytai. Gwaith felly sydd wedi bod yn eu cynnal tra bod y sector preifat wedi bod mwy neu lai ar stop ers dwy flynedd ac heb ddangos arwydd o wella.

Mewn sylw i ymateb y Cynghellor i gwestiynau’r aelodau seneddol, dywedodd Nia, “Mae’n hen bryd i George Osborne gymryd sylw o rybyddion yr IMF a sylweddoli bod agen twf cyson i gael y dyled i lawr.”