
Bwyty lleol yn cipio gwobr diwydiant
Llongyfarchiadau mawr i Monhar Ali a phawb ym Mwyty Sheesh Mahal yn Llanelli am ennill gwobr fawreddog y BCA am y bwyty gorau yng Nghymru.
Llongyfarchiadau mawr i Monhar Ali a phawb ym Mwyty Sheesh Mahal yn Llanelli am ennill gwobr fawreddog y BCA am y bwyty gorau yng Nghymru.
Cyfle i gael eich pabi yn y stondin yng nghanol Canolfan Sant Elli heddiw ac yn ystod yr wythnos. Diolch i’r Cyng. Rob Evans am drefnu ac i’r Cyng. Gary Jones, Ray Batsford a Trish Scott am helpu.
Heddiw, mae’n wych ymweld â’r tîm yn Lumen, gwasanaeth arloesol yn Ysbyty’r Tywysog Philip, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ysgyfaint, ac annog unrhyw un yr effeithir ganddynt i geisio cymorth yn gynnar. Gallai cymaint...
Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, am agor cam un Sied Dda Rheilffordd Llanelli yn Stryd Marsh, Llanelli heddiw, prosiect sy’n trawsnewid adeilad rhestredig gradd II yn ganolbwynt cymunedol bywiog.
Llongyfarchiadau mawr i Brandon Davies o Sir Gaerfyrddin, prentis gyda Chynllun Cyfle Rhannu Prentisiaeth ardderchog ar ddod yn ail yng ngwobrau adeiladwr ifanc y flwyddyn y DU. Dyma fe’n derbyn ei wobr yn y Senedd heddiw.
Trychineb, damwain car, trallod. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi anfon ein heconomi i anhrefn llwyr. Dim ond wythnosau i mewn i’w chyfnod yn y swydd, mae ein Prif Weinidog newydd Liz Truss...
“Mae yna ddegawdau lle nad oes dim yn digwydd ac mae yna wythnosau lle mae degawdau yn digwydd.” Dim yn fwy felly na’r mis diwethaf pan, o fewn ychydig ddyddiau yn unig, y gwelsom ein pedwerydd Prif Weinidog yn...
Anhygoel meddwl ei bod hi’n 15 mlynedd ers i Vicky Davies ddechrau SA15. Perfformiad gwych i ddathlu heno gan Ysgol Lwyfan SA15.
Gwych clywed gan gic-bocswyr yng Nghydweli heno am y mwynhad a’r sgiliau maen nhw’n eu cael. Da iawn i chi gyd am eich cyflawniadau a diolch yn fawr i’ch hyfforddwyr.
Cacennau anhygoel yn cael eu gweini yn nigwyddiad Elusen Sefydliad y Merched Pum Heol ar gyfer Canolfan Gofal y Fron yn Ysbyty Tywysog Phillip. Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd.