Home > Ymgyrchoedd > Siarad yn gadarn dros achub y Post Brenhinol

Wrth ymgyrchu yn erbyn preifateiddio’r Post Brenhinol gyda Bill Hayes, Ysgrifennydd Cyffredinol y CWU

Siaradodd Nia Griffith AS yn gadarn yn erbyn preifateiddio’r Post Brenhinol mewn rali a gynhaliwyd gan Undeb y Gweithwyr Cyfeithrebu (y CWU) yn y Senedd yr wythnos hon.

Yn ôl yn 2010 arweiniodd Nia wrthwynebiad Llafur yn erbyn bil clymblaid y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol a fraenarodd y ffordd ar gyfer preifateiddio’r Post Brenhinol. Nawr mae’r llywodraeth yn bwrw ymlaen i werthu’r Post Brenhinol, gyda’r sôn ei fod yn bosib iddo gael ei werthu i gwmni tramor.

Yn y rali dywedodd Nia,

“Mae gennym wasanaeth post ardderchog ac effeithiol – testun cefnigen sawl gwlad ddatblygiedig ac mae’r ffaith bod y DU yn arwain y byd mewn siopa ar y rhyngrwyd yn brawf o ymddiriedaeth y cyhoedd yn y Post Brenhinol. Mae pawb yn gwybod y bydd preifateiddio’n arwain at elw ar draul cwsmeriaid cyffredin, busnesau bychain a’u gweithwyr. Bydd pris stampiau yn saethu i fyny, gwasanaethau yn cael eu cwtogi, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a gostyngiad mewn cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr.  Mae gweithwyr post yn barod wedi derbyn newid, gan wrthdroi’r cwmni, cynyddu elw o £152m yn 2012 i £403m yn 2013. Caffaeliad i’n gwlad yw’r Post Brenhinol; nid oes dim synnwyr o gwbl i’w breifateiddio. ’Roedd hyn yn oed Thatcher o’r farn ei fod yn gam yn rhy bell.    Mae’n rhaid i’r llywodraeth oedi a gwrando cyn ei fod yn rhy hwyr, pan fydd y gwasanaeth a fu, yn atgof yn unig.  Heb os nac onibai byddaf yn ymgyrchu i atal preifateiddio’r Post Brenhinol.”