Home > Ymgyrchoedd > Nia ymladd am palmant

Trigolion Terry Morgan o Heol Tycroes Rd a Gwyn Evans o Barc Gwernen, gyda Nia Griffith AS, Keith Davies AC a’r Cyng Calum Higgins

Mae Nia Griffith AS yn cymryd o ddifrif pryderon trigolion sydd wedi tanllinelli’r angen am balmant ar hyd Heol Tycroes, Tycroes. Mae wedi  ysgrifennu at Adran Cynllunio Cyngor y Sir i ofyn i’r cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio i ddefnyddio eu pwerau i dderbyn cyllid ar gyfer y palmant oddi wrth y cwmni datblygu eiddo fel amod dderbyn caniatad cynllunio i ehangu ystad Parc Gwernen.

Esboniodd Nia Griffith AS,

“Saf y darn hwn o’r heol ar yr unig ffordd o ystad tai Fforestfach a Pharc Gwernen i’r ysgol ac i ganol y pentref. Nid yw’n ddiogel i gerddwyr, ac nid oes gan adran Prif-ffyrdd y Sir gyllid ar gael i osod palmant. Heb os nac onibai byddai trigolion hen a newydd ar eu hennill gyda phalmant a fyddai modd iddynt gerdded i’r ysgol ac i’r siopau. Mae Mr Terry Morgan sy’n byw yn lleol wedi gweithio’n galed i dynnu sylw’r cynrychiolwyr etholedig at y broblem ac ’rwyn mawr obeithio y bydd Cynghorwyr y pwyllgor cynllunio yn gweld yn dda i fynnu amod ar y datblygwyr i ddod o hyd i gyllid ar gyfer palmant.”