Home > Uncategorized > Rhaid atal y Torïaid rhag gwerthu ein diwydiant dur

Yn hwyrach heddiw, bydd Llafur yn ceisio atal y Torïaid rhag gwerthu diwydiant dur Prydain allan trwy orfodi penderfyniad i gadw amddiffyniadau hanfodol, gyda chynnig i’r Senedd yn awdurdodi Keir Starmer i gyflwyno deddfwriaeth frys i ymestyn mesurau diogelwch cyfredol y DU yn erbyn mewnforion dur rhad. Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn.

Cyn 30 Mehefin, bydd Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol y Torïaid yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â chynlluniau i gael gwared ar naw o’r 19 amddiffyniad cyfredol. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ymestyn eu mesurau diogelwch dur eu hun tan o leiaf Mehefin 2024, ac mae disgwyl i’r Unol Daleithiau wneud hynny hefyd.

Mae’r risgiau i ddiwydiant dur y DU yn fawr os yw’r Torïaid yn pwyso ymlaen. Mae gwarged o ddur yn Tsieina ac mae’r gormodedd o ddur ar y farchnad ryngwladol wedi gwthio prisiau i lawr. Os caiff mesurau diogelwch eu dileu, mae diwydiant dur y DU yn wynebu cael ei ddifetha gan gystadleuwyr. Gallai cynnydd o 2% yn unig mewn gor-gynhyrchu byd-eang ddileu’r galw am ddur Prydeinig yn llwyr.

Byddai torri mesurau diogelwch ac agor y drws i fewnforion dur rhad yn ddinistriol i weithfeydd dur ledled y wlad.