Home > Uncategorized > Sut all Llanelli gofio’r rhai rydyn ni wedi’u colli yn ystod y pandemig hwn?

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd dau goetir yn cael eu creu yng Ngogledd a De Cymru er cof am y rhai sydd, yn anffodus, wedi marw o coronafirws yn ystod y pandemig.

Felly heddiw, wrth inni wrando ar Ddigwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafirws sydd i’w ddarlledu am 5 o’r gloch o risiau’r Senedd, gallem hefyd fyfyrio ar sut y byddem efallai am greu lle yn agosach at adref fel cofeb barhaol lle mae teuluoedd ac eraill yn gallu dod i gofio pawb rydyn ni wedi’u colli.

Mae hyn yn rhywbeth y dylem ei gynllunio gyda’n gilydd fel cymuned, felly byddaf i a Lee Waters AS yn falch iawn i glywed eich meddyliau am hyn. Bydd munud o dawelwch hefyd yn cael ei gynnal ganol dydd i nodi’r Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol a gwylnos ar stepen drws, gyda fflach lampau neu ganhwyllau, am 8yh heno.