Home > Uncategorized > Cyffordd M4 yr Hendy i gael uwchraddiad o £2.9m o ddiwedd mis Mawrth

Mae gwaith i uwchraddio cyffordd yr M4 yn Hendy o ddiwedd y mis wedi cael ei groesawu gan ASau Llanelli Lee Waters a Nia Griffith.

Mae tagfeydd peryglus ar yr adegau prysuraf yn gyfarwydd i unrhyw un sy’n teithio i mewn ac allan o Lanelli. Bydd y gwaith arfaethedig o £2.9m yn cynnwys ehangu ffordd yr A4138, signalau traffig newydd ar y slipffordd orllewinol oddi ar y draffordd a chyffordd Tal-y-Coed, a gwell darpariaethau ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Dywedodd Lee Waters AS:

“Rydw i wedi bod yn ymgyrchu ers pum mlynedd (ac mae Nia Griffith wedi bod yno lawer hirach) i helpu preswylwyr yn Nhal-y-Coed i ddod allan o’u hystâd yn y bore, a helpu i leddfu’r tagfeydd i ymuno â’r M4 ar adegau prysur.

“Rwy’n falch bod y Cyngor bellach yn bwrw ymlaen â’r rhaglen sylweddol hon o welliannau ar ôl i mi helpu i sicrhau cyllid. Bydd rhywfaint o aflonyddwch yn anochel wrth i’r gwaith gael ei wneud, a fydd yn rhwystredig i bob un ohonom am gyfnod, ond gobeithio y bydd yn werth chweil ac yn gwneud teithio trwodd yma yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus i bawb. ”

Ychwanegodd Nia Griffith AS:

“Rwy’n falch y bydd y mesurau hyn nawr yn cael eu gweithredu i leddfu traffig yn yr ardal. Mae preswylwyr wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers blynyddoedd lawer ac ni allant ddod yn fwy buan.

Mae’r cyllid gan Lywodraeth Lafur Cymru i’w groesawu ac edrychaf ymlaen at weld pa wahaniaeth y bydd y newidiadau hyn yn ei wneud i’r broblem hirsefydlog i gymuned yr Hendy.”