Home > Uncategorized > Rhaid i waharddiad neonicotinoid aros

Mae gwenyn yn hanfodol i ddyfodol ein planed, i beillio ein cnydau ac am fioamrywiaeth.

Ac eto, yn y DU, mae 13 o rywogaethau gwenyn wedi diflannu, ac erbyn hyn mae un o bob deg o rywogaethau gwenyn gwyllt Ewrop dan fygythiad.

Cafodd plaladdwyr neonicotinoid eu gwahardd ledled yr UE yn 2018 oherwydd eu heffeithiau niweidiol. Ymrwymodd y Torïaid i gynnal y cyfyngiadau hyn ar ôl Brexit ond yna cyhoeddwyd y mis diwethaf eu bod wedi cytuno ar eithriad i drin betys siwgr yn Lloegr.

Rwy’n falch bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi cadarnhau na fydd yr awdurdodiad hwn yn cael unrhyw effaith yma. Mae gan Lywodraeth Lafur Cymru record gadarnhaol ar hyn ar ôl lansio Cynllun Peillwyr Cenedlaethol cyntaf y byd yn ôl yn 2013 ac mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i leihau effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt, planhigion a’r amgylchedd i’r lefel leiaf bosibl.