Home > Uncategorized > Mae angen gwneud mwy i atal lladrad anifeiliaid anwes

Mae gwir angen i ni wneud mwy i fynd i’r afael â dwyn anifeiliaid anwes.

Mae llawer o etholwyr wedi cysylltu â mi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf yn poeni am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu hanifeiliaid anwes yn dilyn digwyddiadau o ddwyn c?n yn dod i’r amlwg yn ddiweddar.

I nifer ohonom, mae anifeiliaid anwes yn aelodau o’n teuluoedd a chydymdeimlaf gydag unrhyw un sydd wedi dioddef y creulondeb o gael eu hanifail anwes annwyl wedi eu cymryd wrthynt. Dylid mesur achosion dwyn anifeiliaid anwes o ran trallod emosiynol na cholled economaidd.

Nid mater o ddwyn eitem neu wrthrych yw dwyn anifail anwes, ac ni ddylid ei drin felly gan y gyfraith. Mae angen ei ystyried yn drosedd benodol, gyda dedfryd llawer cryfach i’r troseddwyr.

Dyna pam mae angen i Lywodraeth Geidwadol y DU gyflwyno Mesur Lles Anifeiliaid newydd a newid y gyfraith ar hyn ar frys.