Mae dyfodol casglwyr cocos Cymru mewn perygl o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan y Llywodraeth Geidwadol i sicrhau mynediad iddynt allforio i’r EU yn dilyn Brexit, yn ôl ASau Llanelli, Nia Griffith a Lee Waters.
Mae bellach wedi dod i’r amlwg bod Gweinidogion Llywodraeth y DU, a ddywedodd o’r blaen fod gwaharddiad yr EU ar fewnforio pysgod cregyn y DU yn un dros dro ac y byddai’n hawdd ei ddatrys erbyn mis Ebrill, eisoes wedi gwybod bod y gwaharddiad mewn gwirionedd yn amhenodol.
Ar hyn o bryd mae’r gwaharddiad yn atal pysgod cregyn sy’n cael eu dal yn y DU rhag cael eu gwerthu yn yr EU oni bai ei fod wedi mynd trwy broses o buredigaeth fecanyddol yn gyntaf. Gyda dim ond capasiti cyfyngedig ar gael ar hyn o bryd i wneud hyn a dim cynllun gan Lywodraeth y DU i naill ai ehangu’r isadeiledd neu i ail-drafod ei safle, mae llawer o gwmnïau cocos a physgod cregyn lleol yn dioddef o ganlyniad.
Dywedodd Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith, a gododd y mater yn uniongyrchol gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Senedd yn San Steffan ddydd Mercher:
“Nid swydd yn unig yw casglu cocos yng Ngogledd a De Cymru, ond yn ffordd o fyw sy’n dyddio’n ôl cenedlaethau. Erbyn hyn, mae casglwyr a oedd eisoes wedi’u dychryn gan y cyngor na allent ailddechrau allforio pysgod cregyn tan fis Ebrill, yn teimlo nid yn unig yn angof ond yn cael eu bradychu’n llwyr i ddarganfod bod Gweinidogion y DU eisoes yn gwybod y byddai gwaharddiad yr EU ar fewnforio pysgod cregyn yn amhenodol.”
Mae gwir angen i Lywodraeth y DU gymryd camau brys i helpu ein casglwyr cocos i gadw eu marchnad allforio hanfodol ac arbed y diwydiant traddodiadol hwn rhag diflannu am byth. ”
Ychwanegodd AS Llanelli, Lee Waters:
“Rydyn ni nawr yn dechrau gweld y gwahaniaethau rhwng yr addewidion a wnaed dros Brexit a’r realiti.”
“Dywedwyd wrth bysgotwyr pe byddem yn gadael Marchnad Sengl yr EU y byddent yn elwa ond fel y gallwn weld nawr byddant yn waeth eu byd. Yn union fel yr addawyd i halwyr sy’n teithio i Ogledd Iwerddon, ni fyddai unrhyw waith papur ac maent yn wynebu’r realiti o oediadau costus, ac yn union fel yr addawyd inni, byddai Cymru yn cael set newydd o gronfeydd strwythurol ac ni fyddent yn waeth eu byd. Mae angen i’r Ceidwadwyr ateb am eu methiant i gyflawni eu haddewidion.”