Home > Uncategorized > Ymgyrch Cynllun Pensiwn Glowyr

Rydw i’n rhoi fy nghefnogaeth lawn i’r ymgyrch am ymchwiliad seneddol i’r ffordd yr ymdriniwyd Cynllun Pensiwn y Glowyr.

Er 1994, mae’r ‘trefniadau rhannu’ wedi arwain at gymryd £4bn allan o’r Cynllun heb fuddio cyn gweithwyr glo, tra bod aelodau’r cynllun pensiwn yn derbyn ond £84 yr wythnos ar gyfartaledd.

Ddiwedd y mis diwethaf, roeddwn yn un o hanner cant o ASau a ysgrifennodd at Bwyllgor Dethol BEIS yn galw am ymchwiliad seneddol ac yn gofyn i Lywodraeth Geidwadol y DU ystyried trefniadau tecach a fyddai’n gwasanaethu ein cymunedau maes glo yn well.

Rwy’n falch bod ein cais yn cael ei ystyried a byddwn yn parhau i ddilyn hyn.