Mae Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli bellach wedi sicrhau’r cyllid sydd ei angen ar gyfer cam cyntaf adnewyddu’r adeilad rhestredig hwn am ddefnydd y gymuned.
Mae Sefydliad Garfield Weston wedi camu i mewn gyda £90k i ychwanegu at y cyllid a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffordd, Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru.
Fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Sied Nwyddau, rwy’n ddiolchgar i Sefydliad Garfield Weston am addo’r cronfeydd hyn inni. Dyma ddarn olaf y jig-so cyllido a fydd yn ein galluogi i ddechrau.
Mae hwn yn amser cyffrous iawn i’r rhan hon o Lanelli. Bydd yr adnewyddiad yn rhoi hwb gwirioneddol i’r ardal.
Mae ysgolion lleol eisoes wedi bod yn gysylltiedig â ni wrth archwilio treftadaeth ddiwydiannol yr ardal a chyfraniad pwysig y rheilffordd i ddatblygiad Llanelli. Trwy’r cyfleoedd yn yr adeilad adnewyddedig, unwaith eto bydd y Sied Nwyddau yn cyfrannu at yr economi leol.