Home > Uncategorized > Diweddariad brechlynnau Covid-19

Newyddion da ond rhaid bod yn amyneddgar.

Diolch i fwrdd iechyd Hywel Dda am rannu eu cynllun gyda ni heddiw i ddarparu cymaint o’r brechlyn ag y gallant gael gafael ar gyn gynted â phosib.

Gwych bod Cymru a Hywel Dda wedi derbyn cyfran deg, a byddant wedi rhoi 8,416 dos o’r brechlyn erbyn y penwythnos hwn, ac yn disgwyl cael 4,000 Pfizer a 2,800 Rydychen erbyn yr wythnos nesaf, ond deallwch bydd rhan helaeth o’r brechlyn yn cael eu rhoi i’n 45,000 dros 80au a gweithwyr iechyd / gofal o 11eg Ionawr. Yna mi fyddwn ar y trywydd cywir.

Gwnewch yn si?r eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu, ac mi gewch eich gwahoddiad. Ond cofiwch hefyd fod y brechlyn yn cymryd amser i fod yn effeithiol ac nid yw’n rhoi unrhyw sicrwydd na fyddwch chi’n trosglwyddo’r afiechyd i eraill.

Yn y cyfamser, arhoswch gartref oni bai bod yn rhaid i chi fynd allan.